Main content

Ffrindiau a Chystadleuwyr

Y tair merch yn cystadlu er mwyn dod i nabod boi’n well. Ond yn y diwedd mae'r merched yn penderfynu cymodi ac yn addo peidio byth Γ’ dewis bechgyn dros ei gilydd.

Mae Enrique, sy'n nai i 'fam' Lara ym Mhatagonia, yn dod i aros ond mae Lara (12) wedi pwdu oherwydd mae'n rhaid iddi symud o'i hystafell hi i rannu 'stafell gyda'r babi. Ond mae unrhyw ddrwgdeimlad yn diflannu cyn gynted ag y mae Lara'n gweld Enrique yn camu allan o'r tacsi. Mae hi wedi gwirioni! Yn anffodus iddi hi, mae Monica (11) ac Akira (12) wedi gwirioni arno hefyd. Y diwrnod canlynol yn y parc sgrialu mae'r tair merch yn dechrau cystadlu yn erbyn ei gilydd am sylw Enrique. Dydy Tony (13) ddim yn deall y peth - beth sydd mor arbennig am y boi? Yn ystod y dydd, mae'r gystadleuaeth yn dwysΓ‘u rhwng y merched, a phan fydd Lara a Monica yn sylweddoli fod gan Enrique ddiddordeb yn Akira, mae eu cyfeillgarwch yn dioddef. Mae popeth yn cyrraedd uchafbwynt yn y sinema, lle mae'r merched yn achosi cymaint o stΕ΅r nes bod Gabriel (13) yn colli ei dymer. Mae gweld Gabriel mor ofidus yn dangos iddyn nhw i ba raddau mae eu gelyniaeth wedi effeithio ar eu cyfeillgarwch. Mae'r merched yn cymodi ac yn addo peidio byth Γ’ dewis bechgyn dros ei gilydd. Mae Lara hyd yn oed yn helpu Akira drwy roi ei chyfeiriad e-bost i Enrique er mwyn iddyn nhw gael cadw mewn cysylltiad.

Release date:

Duration:

13 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu