Ar y We, Be?
Mae Tony wedi dod ar draws gêm saethu mymïod ar y we. Cyn hir, mae'r gêm anaddas yn ei fachu ac mae'n gaeth; yn esgus bod yn sâl er mwyn cael aros adref i chwarae'r gêm.
Mae'r grŵp i gyd yn y llyfrgell yn ymchwilio i'w gwaith cartref ar yr Aifft Hynafol, pan mae Gabriel (13) yn darganfod ei fod wedi ennill chwe thocyn i rowndiau terfynol y bencampwriaeth bêl-fasged genedlaethol. Ar yr un pryd, mae Tony (13) yn dod ar draws gêm saethu mymïod ar y we. Cyn hir, mae'r gêm anaddas yn ei fachu ac mae'n gaeth; mae hyd yn oed yn esgus bod yn sâl er mwyn cael aros adref i chwarae'r gêm yn ddi-dor. All y ffrindiau ddim credu y byddai Tony yn treulio'i holl amser yn ei 'stafell yn chwarae gemau cyfrifiadur, felly maen nhw'n anfon Akira (12) i gael gair gydag ef. Er mawr siom iddyn nhw, mae'r gêm fideo yn bachu Akira hefyd. Aiff y sefyllfa mor wael, nes i Akira a Tony anghofio'r amser a methu'r gêm bêl-fasged. Yn y cyfamser, mae Gabriel, Monica (11), Lara (12) a Llion (13) yn cael amser gwych yn y bencampwriaeth. Mae Gabriel hyd yn oed yn ennill cyfle i gwrdd â'i arwr pêl-fasged. A hwythau'n siomedig na ddaeth eu ffrindiau i'r gêm bêl-fasged, mae'r grŵp yn dangos i Akira a Tony beth maen nhw wedi'i golli. Gan deimlo'n ddigalon, mae'r ddau'n sylweddoli pa mor gaeth oedden nhw i'r cyfrifiadur ac yn addo defnyddio eu hamser mewn ffordd fwy adeiladol o hyn ymlaen.
Duration:
This clip is from
Featured in...
Tri Chwestiwn i Lara
Animeiddiadau ar gyfer ABCh - CA2 & CA3
More clips from Clipiau Dysgu
-
Ynys Enlli—Dysgu
Duration: 01:00
-
Sea Empress - Llygredd—Dysgu
Duration: 01:53
-
Ray Gravell—Dysgu
Duration: 02:31
-
Bryn Terfel Ifanc yn y Coleg—Dysgu
Duration: 03:53
More clips from Â鶹ԼÅÄ Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—Â鶹ԼÅÄ Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00