Cyfaill CΕ΅l Gabriel
Gabriel yn cerdded heibio ei hen ffrindiau ac yn ymuno Γ’ Teo . Mae Gabriel wedi bod yn treulio llawer o amser gyda Teo yn ddiweddar. Brifwyd teimladau Tony a gweddill y grΕ΅p.
Mae'r ffrindiau ar eu ffordd i'r ysgol ond mae Gabriel (13) yn cerdded heibio iddyn nhw ac yn ymuno Γ’'i ffrind newydd hΕ·n, Teo yng nghefn y bws. Mae Gabriel wedi bod yn treulio llawer o amser gyda Teo yn ddiweddar, gan efelychu ei steil e. Fe wnaeth hyd yn oed berswadio Teo i roi tatΕ΅ ffug iddo. Mae teimladau Tony (13) wedi'u brifo; dydy Gabriel ddim yn treulio amser gydag ef nac yn ei gynnwys yn ei gynlluniau. Mae'r merched yn cydymdeimlo, ond pan ddaw'r Merched CΕ΅l ar y bws, mae sylw Monica (11) arnyn nhw ar unwaith; ond mae'r Merched CΕ΅l yn llawn dirmyg ac yn chwerthin ar steil gwallt Monica. Eistedda Monica Γ’'i phen yn ei phlu a dechrau ail-wneud ei gwallt. Mae hi'n mynd drwy gyfres o steiliau gwallt anarferol yn ei hymdrechion i greu argraff ar y Merched CΕ΅l. Pan fydd Gabriel yn methu'r ysgol, penderfyna'r ffrindiau siarad gydag ef cyn iddo fynd i mewn i helynt. Maen nhw'n dod o hyd iddo yn y ganolfan siopa gyda Teo, lle maen nhw'n sylweddoli y gallai Gabriel fod mewn mwy o helynt nag yr oedden nhw wedi meddwl; mae Teo yn lladrata o siopau. Maen nhw'n tynnu llun o Teo yn dwyn ac yn ei ddangos i Gabriel; mae'n gwybod na all wadu beth mae Teo yn ei wneud ond mae'n colli limpyn ac yn gadael wedi'i siomi a'i wylltio. Yn ddiweddarach, mae Gabriel yn gweld ei ffrindiau mewn caffi yn cael hwyl hebddo. Mae ganddo ormod o gywilydd i ymuno Γ’ nhw ond mae Tony yn ei ddilyn ac yn ei berswadio i ddod yn Γ΄l at y grΕ΅p. Ymddiheura Gabriel am ei ymddygiad ac mae hyd yn oed yn llwyddo i chwerthin pan mae'n dangos y 'tatΕ΅' sydd bellach yn ddim byd ond staen budur ar ei fraich lle mae'r inc wedi rhedeg. Ar Γ΄l cymodi, mae'r ffrindiau'n dod at ei gilydd i helpu Gabriel i ddychwelyd yr eiddo gafodd ei ddwyn. Mae Monica wedi dod o hyd i'r guddwisg berffaith iddyn nhw i gyd; ac yn ddiarwybod iddi hi, mae hi'n creu argraff dda ar y Merched CΕ΅l ar yr un pryd.
Duration:
This clip is from
Featured in...
Tri Chwestiwn i Lara
Animeiddiadau ar gyfer ABCh - CA2 & CA3
More clips from Clipiau Dysgu
-
Ynys Enlli—Dysgu
Duration: 01:00
-
Sea Empress - Llygredd—Dysgu
Duration: 01:53
-
Ray Gravell—Dysgu
Duration: 02:31
-
Bryn Terfel Ifanc yn y Coleg—Dysgu
Duration: 03:53
More clips from ΒιΆΉΤΌΕΔ Cymru
-
Agor adeilad newydd y Cynulliad
Duration: 02:09
-
Refferendwm datganoli 1997
Duration: 02:31
-
Protestiadau Tryweryn 1965—ΒιΆΉΤΌΕΔ Cymru
Duration: 01:54
-
Ynys Enlli—Clipiau Dysgu, Dysgu
Duration: 01:00