Main content

Cerdd Rydd: Oedi.

Mae'n dymor i hen gosfa ysgafn-droed
ailglymu careiau'r 'sgidiau trymion;
llnau huddug y llynedd, dod at ein coed
ym mlas y bore. A throi'n golygon
at hud y ceunant sy'n dadmer swildod
Sgwd yr Eira, yn golchi'i frethynnau
ym mhyllau Sgwd y Pannwr, yn barod
i wisgo'r esgyrn pren ar ei lannau.

A do, gwelwyd dail. Rhai fel haearn rhwd
o dan ein camau, yn difetha'r llun
a addawsid ar Waun Hepste'n ha' bach brwd,
sy'n dal i bydru eu hafiechyd hΕ·n.
Trobwll fydd pob rhod ym Mellte cyhyd
ag y gwrthyd Ebrill faddau i'r byd.

Osian Rhys Jones

9.5

CYFANSWM MARCIAU Y GLER: 53.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

45 eiliad

Daw'r clip hwn o