Main content

Cerdd Rydd: Oedi.

Er i’m bywyd ddal i dreiglo,
Y mae rhywbeth yn fy mlino,
Bydd yn taro mor annisgwyl,
Taro’n daer fel trawiad morthwyl.

Rhwng dau air a rhwng dau damed,
Rhwng dau gam wrth i mi gerdded,
Yn y bwlch bach slei rhwng node,
Daw i’m taro, nos a bore.

Mewn cwm unig ac mewn tyrfa,
Wrth i gwsg ddod drostai’n ara’,
Rhwng dau feddwl wrth im’ drafod
Ac wrth gyfarch eich cydnabod.

Rhwng dwy ana’l, rhwng dau guriad
Wrth y bwrdd, wrth geisio siarad,
Rhaid i’m oedi er fy ngwaetha’
Pan ddaw hiraeth ar fy ngwartha’.

Beryl Griffiths

9.5

CYFANSWM MARCIAU PENLLYN: 53.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

51 eiliad

Daw'r clip hwn o