Main content

Cywydd: Man Gwyn.

'As if' ar wyneb FIFA,
'Gwlad y gΓΆn ei hunan ... ha!'
A pha iws, a honno'n ffaith
Ysgubol, gwrso gobaith
Cael gwadd i rodfa ddrudfawr
Twrnament yr enwau mawr?

Ai oherwydd, ddydd a ddaw,
Cael rywdro hwylio alaw
Ar derasau drud Rwsia
Yn llawn awch i ennill? Na,
Am mai nawr y gwyddom ni
Y gallwn, gallwn golli.

Eurig Salisbury

9.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

37 eiliad

Daw'r clip hwn o