Main content

Cerdd Rydd Bro Alaw.

Cerdd Rydd mewn mydr ac odl (heb fod dros 18 llinell):

Troi a Throsi

Dyma amlen fy meddyliau.
Ynddi, ddalennau di-liw
ac inc parhaol ein problemau;
f’ymgais i groniclo
y gwyn a’r du nad wyt ti’n ei deimlo;
a leinin – papur sidan
penderfyniad.

Maddau i mi am fod mor eiriog wrthi;
nid yw’n hawdd gwasgu’r stori i gyd
i blygiadau egluro – trio esbonio
pethau nad wyf fi, eto,
yn llwyr eu deall fy hun.
Ond, fel y gweli, gallaf grynhoi
yfory, mewn un frawddeg.

F’ymlid y mae’r amlen.
Dal arni, rhag dy lorio
ynteu ei danfon?
Beth wedyn – derbyn?

Sian Owen

9.15

Cyfanswm Marciau Bro Alaw: 52.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

54 eiliad

Daw'r clip hwn o