Main content

Cerdd Rydd Tegeingl.

Cerdd Rydd mewn mydr ac odl (heb fod dros 18 llinell):

Troi a Throsi

Ddaw cwsg ddim yn gynnar heno,
Na'r un noson arall chwaith,
Mae 'na ias oerach na'r gaeaf
Fel dolur o dan y graith.
Mae'r ffug dawelwch yn danchwa,
A'r mudandod yn sgrech i gyd,
Aeth breuddwyd yn hunllef sydyn,
A'r nefoedd yn uffern fud.
Mor lleddf yw nodau pob alaw,
Ac mor bell, mor bell yw ddoe,
Fe ddarfu'r chwerthiniad hwnnw
Fel blodyn ar derfyn sioe.
Daeth machlud ar ganol bore,
A diwedd i ganol taith,
Fe olchwyd lliwiau yr enfys
Yn lΓΆn, yn y dagrau llaith.
Does dim ar Γ΄l ond atgofion syn,
A gwagle oer ar obennydd gwyn.

John Gruffydd Jones

9.5

Cyfanswm Marciau Tegeingl: 53.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

54 eiliad

Daw'r clip hwn o