Main content

Cân Tywysogion

Cân Ysgafn (heb fod dros 20 llinell, ac heb fod yn soned): Bargeinion

Rwyn sgit am wneud arbedion,
Rwyn deall ‘gwerth’ a ‘phris’,
Rwy’n arbed ffortiwn inni.
Rwyf mewn rhyw sêl bob mis.

Fe brynais yn ddiweddar
Ddau Iôdar mawr John Deere,
Wel, fedrwn ‘im â pheidio,
A rheiny â skid-steer.

Fe ges i’r lot myn coblyn
Yn rhatach wir na baw
A phymtheg pwced JCB
Am ddau gant naw deg naw.

Am bunt ces olau buarth
A hwnnw’n wyth mil watt.
Y broblem rwan ydi
Fy mod yn byw mewn fflat.

Mei Mac

8.5
 

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

50 eiliad

Daw'r clip hwn o