Main content

Cân Bro Alaw.

Cân Bro Alaw.

Cân Ysgafn (heb fod dros 20 llinell, ac ddim yn soned)

Bargeinion

Gan fod nifer o’n caneuon mwyaf poblogaidd [ee Elen, Trên Bach yr Wyddfa, Lawr ar lan y môr ] wedi eu gosod ar alawon oes y sgiffl meddyliwyd y byddai’n werth dwyn i gof un arall o’r alawon hynny – Putting on the Style . O’i chanu fe fyddai’r ail bennill yn gytgan.

Idwal wedi meddwi yn galw yn y siop,
Er mwyn sobri’n sydyn yn prynu potel bop,
Gweld un fawr am buntan sef Pepsi sugar-free,
Yn hefru ar ôl talu – “ a lle mae’n shiwgwr i?â€

Does dim i’w gael heb dalu, ond mae talu’n faich, Da yw cael pocedi sy’n ddyfnach na hyd braich.
Mae’n rhaid meddwl ddwywaith pan ddaw cynigion hael –
Y fargen heb ei disgwyl yw’r fargen ora i’w chael.

Fe brynais docyn raffl gan y WI,
Gofynnais i’r brif ddynas, “Be di’r wobr ga’i?
Atebodd honno’n sychlyd, “Wel, Garddwest efo’r Cwîn.â€
Rwy’n falch mai’r bumed wobr ddaeth – potel fach o win.

Duncan-Smith yn siarad yn waeth na dolur rhydd
Dweud y gallai fyw yn iawn am wythbunt yn y dydd.
Neidiwn at y cynnig, y fo sy’n deud nid ni –
Fe wnaiff uchafswm cyflog ar gyfer pob MP.

Nifer ein cynghorwyr ym Môn sy’n mynd yn llai,
A’r deugain a oedd gennym, yn dri-deg o fis Mai
Arbed dau ddeg pump y cant – mi fydd cytuno’n hawdd
Pan ddaw’r deg darn ar hugain o’r Bae i’r rhain fel nawdd.

John Wyn Jones

8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o