Main content

Cywydd Bro Alaw.

Cywydd (heb fod dros 12 llinell):

Awyr Iach

Pan welaf lif yr afon
A'i her wyllt drwy'r frodir hon,
Yr afon estron ei hiaith
A mwrdwr yn ei mordaith,
Cyn cau'r felan amdanaf
Daw yn Γ΄l freuddwydion haf
A ni'n griw mor driw'n y drin,
A'n hafiaith dros gynefin
Mewn gwewyr, yn awyr iach,
Yn rhan o hen gyfrinach
Y rheswm in oroesi
'N y lle hwn, er grym y lli.

Richard Parry Jones

8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

34 eiliad

Daw'r clip hwn o