Main content

Glannau Menai: Cerdd rydd neu mewn mydr ac odl, heb fod dros 18 llinell

Hwiangerdd

yw chwiban bugeiliaid y gwynt
yn corlannu awelon drwy gwrlid niwl,
a chwip y llafnau’n rhwygo’n fain
dros orwelion llwyd, lle bu’r ehedydd gynt
yn castio’i nodau i fôr o gymylau,
y tu hwnt i bob bod.

Hwiangerdd geir yn nwndwr afon
sy’n ffromi’n daer ar arffed dôl.
Yn stori ei rhawd mae sŵn ei rheg,
am i‘w hynt gael ei hastu
o fynwes rhos ac o afael yr hesg.
Clyw sŵn y grisial heno’n crynu drwy’r erwau caeth,
a’r dicter yn chwalu’n deilchion
dros groen y tir.

Hwiangerdd yw’r alaw sy’n dal i’n suo
â’n byd yn chwil, a’i grud yn siglo
ar echel cynnydd, a’r llanw’n curo
â gwawd yn ei ddwrn, a ninnau’n huno.

Elinor Gwynn

9.5

Cyfanswm Marciau Glannau Menai: 52

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

53 eiliad

Daw'r clip hwn o