Tir Mawr: Cân Ysgafn heb fod dros 20 llinell, ac heb fod yn Soned
Cân Ysgafn heb fod dros 20 llinell, ac heb fod yn Soned.
Y Streic.
Ceisio stwffio dwy Ddorito 'mewn i'w weflau ydoedd Meic
Ond fe fethodd.Yna sylwodd fod ei geg 'di mynd ar streic
Yr hen sothach âi ddim pellach.Meic a welodd gyda rheg
Ddannedd pygddu yn picedu mewn dwy res tu mewn i'w geg
Er eu safiad a'u hymrwymiad roedd 'na wendid yn eu plan
Un o'r cyfryw sydd hyd heddiw mewn canal yn Amsterdam
Meic, mewn eiliad, gafodd syniad, nol y stwnsiwr a wnaeth o
A Chawl Cennin a dau bwdin aeth drwy'r twll i'w geg drwy sdrô
Dyma drafod efo'r tafod er mwyn gwneud yn hollol siwr
Fod y twll ar gau i bopeth arwahan i de neu ddwr
Galwyd Dafydd Wyn y deintydd, (Gŵr o'r De a gŵr o dras )
Er mwyn trafod a chymodi, ac fe wnaeth ei orau glas
Fe resymodd, fe ymbiliodd, fe gynnigiodd foddion gras
Yna dant-odd ac fe wylltiodd " Pawb n'ôl mewn ! neu bydd pawb mas!
O ganlyniad i'r bygythiad wele 'Brad yr Un-deg saith'
Wyth o'r top a naw o'r gwaelod aeth fel llygod n'ôl i'w gwaith
Roedd ei geg o fel hen biano o dan ddwylo cerddor mawr
Efo nodau wedi sticio, rhai'n mynd 'fyny, rhai'n mynd lawr
Gefail gelfydd Dafydd Deintydd â'u symudodd nhw bob un
Ac mae Meic a'i ddannedd gosod yn cyd-fyw yn oll-gytun
Jos
9.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 21/04/2013
-
Tir Mawr: Cwpled Caeth
Hyd: 00:05
-
Tir Mawr: Cywydd heb fod dros 12 llinell
Hyd: 00:36