Main content

Glannau Menai: Cân Ysgafn heb fod dros 20 llinell, ac heb fod yn Soned.

Y Streic

Pymtheg oed oedd Tomos a’i fyd byth yn stopio,
Roedd ei flerwch yn gyson a’i rieni ‘di blino.
Sawl rhybudd a roed ond nis altrodd ei gam
A’r diwrnod a ddaeth pan streiciodd ei fam.

Nid oedd yn amau – ni sylwodd yr hogyn,
A’i ddillad yn aros lle roeddynt yn disgyn.
Ei fam wnaeth ei fwyd fel arfer i Tom,
Ond y tŷ aeth yn flêr a’i stafell fwy llom.

Trôns glân oedd ei angen un bore ar Tomos,
Ac i’w ddrôr fel arfer aeth yn syth heb ddim aros,
Ond syndod a gwae, roedd hi’n wag yn lle hael,
A sut wyddai ef fod lle ‘eri’ i’w gael.

Bu rhaid iddo wisgo’r hen ddillad, rhai budron
Ac aeth am yr ysgol yng nghwmni cyfeillion
A’u sylwadau nhw’n flin a thynnwyd ei goes
Bod ‘hoglau’ nid ffres, yn achosi cryn loes.

O’r diwedd fe welodd mor ffôl ei gamwri
Aeth adre yn sydyn a chofleidio’i rieni.
Nid taro bu’r streic ond cariad ga’dd o
A’r person sy’n amau nid Tomos bob tro.

Meirion Jones

8.5

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

15 eiliad

Daw'r clip hwn o