Main content
Ysgol y Berwyn: Cân Ysgafn heb fod dros 20 llinell, a heb fod yn Soned.
Y Streic
Ma’r llofft ma’n llawn o lanast
Yn wir mae golwg mawr,
Dilladau glân a budur
Yn gymysg ar y llawr.
Ac nid yw’r stafell molchi
Ers oes ‘di cael ei thrin,
Dim tywel sych yn unman
Na dim i sychu’ch tin.
Dwi’n gwisgo’n nillad isa
Ers wythnos bob yn ail,
A wir dwi’n dechrau drewi
Yn waeth na thomen dail.
Mae’r llestri’i gyd yn fudur
Cypyrddau’n wag i gyd,
Dim prydau ar fy nghyfer
A dweud y gwir- dim byd.
I adfer trefn fy mywyd
A’m hachub rhag cael cam,
Fory dwi am gymodi
I ddatrys streic fy mam.
Delyth Humphreys
8.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 21/04/2013
-
Tir Mawr: Cwpled Caeth
Hyd: 00:05
-
Tir Mawr: Cywydd heb fod dros 12 llinell
Hyd: 00:36