Main content

Tir Mawr: Cywydd heb fod dros 12 llinell

Ailgydio

I deulu Ty’n y Ffridd, Cwm Cynfal

Mae’n foel; mae’r cwm yn felyn
a di-gân yw du a gwyn
y piod; di-wên blodau
a hwn â’i lygaid ynghau.
Mae’r llew Mawrth mor llym ei wynt,
yn halen ar ein helynt.
Yn nhir y byw, llwydni’r bedd;
dynionach dan ewinedd
llaw angau; ni ollyngwn
ei hoerni hi am mai hwn
yw’r Mai. Ond drwom mi all
hau’r llawr gyda’r llaw arall.

Myrddin ap Dafydd

10

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

36 eiliad

Daw'r clip hwn o