Tir Mawr: Pennill Ysgafn
Pennill ysgafn (ar unrhyw ffurf:) Gair o gyngor i rywun enwog
Gair o gyngor i drefnydd angladd cyn-brifweinidog
‘Rhowch hi’n y fflamau,’ medd glowyr y fro;
‘Mae’r cwm am gyfrannu bwcedaid o lo.’
‘Rhowch hi mewn blanced,’ medd Gwyddel o’r Maize;
‘Cyn iddi hi oeri, doedd ynddi ddim gwres.’
‘Rhowch hi ar ynys,’ medd Paris a Bonn;
‘Un gul iawn ei glannau – heb bont – siwtith hon.’
‘Neu beth am long ryfel yng ngwaelod y lli?
A meirwon rhy ifanc yn gwmni iddi hi?’
‘Neu falla ei stwffio a’i rhoi mewn ciw dôl?’
‘Rhoi’i llwch dros ros Greenham na ddaw fyth yn ôl?’
‘Neu rhowch hi yn wrtaith dan gennin Caerdydd –
Y hi wnaeth y llanast a’n troes yn wlad rydd.’
‘Rhoi hon, y wraig haearn,’ yw barn Myrddin ap,
‘Efo’i thanciau a’i Threident ar gefn lorri sgrap.’
´³´Ç²õ 
9.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 21/04/2013
-
Tir Mawr: Cwpled Caeth
Hyd: 00:05
-
Tir Mawr: Cywydd heb fod dros 12 llinell
Hyd: 00:36