Main content

Lowri

Cwrdd â Lowri sy'n dioddef o OCD.

Mae Llion Williams yn cwrdd â Lowri sy'n astudio ym Mhrifysgol Bangor ac yn dioddef o'r anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD). Mae hi'n sôn am ei hobsesiwn golchi dwylo, gan fod ganddi ‘obsesiwn germau', ac yn trafod ei theimlad bod yn rhaid iddi hi gau llenni a chyfri i ddeg. Os nad yw'n gwneud hynny, bydd arni ofn bod rhywbeth yn mynd i ddigwydd i rywun sy'n annwyl iddi. Os nad yw'n llwyddo i wneud hyn yn iawn y tro cyntaf, mae'n rhaid iddi ail wneud y broses drosodd a throsodd nes ei bod yn hapus. Cawn ein cyflwyno i Keith Fearns, seiciatrydd sy’n gweithio'n agos â Lowri. Mae e'n ceisio gweithio drwy'r syniadau sydd gan Lowri ynglŷn â niweidio rhywun gyda chyllell a chael y syniadau allan o’i phen. Ceir clip yn dangos sut mae Keith yn mynd trwy'r broses hon gyda Lowri. Mae Keith yn credu bod yn rhaid gweithio drwy'r rhagfynegiad hwn, a'i fod yn 'syniad brawychus'. Mae'n dweud mai'r person gydag OCD fyddai'r person olaf i niweidio rhywun. Dychwelwn yn ôl at sgwrs rhwng Lowri a Llion. Mae Lowri'n dweud, 'nid ti yw'r person ... yr OCD yw e.'

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

7 o funudau

Dan sylw yn...