Main content

Camp Bastion -Tebygrwydd

Gwelwn Eirian, sydd fel arfer yn gweithio fel nyrs orthopedig yn Ysbyty Gwynedd, yn sôn am debygrwydd yr anafiadau mae’n delio â nhw pan fydd pobl yn cael eu hanafu ar fynyddoedd Eryri â’r anafiadau a geir yn Affganistan. Mae Gethin, ar y llaw arall, yn sôn am y gwrthgyferbyniad rhwng nyrsio yn Affganistan a'i rôl arferol fel nyrs gymunedol yn Amlwch, Ynys Môn. Yno mae'n delio’n bennaf â’r henoed, ond yng ngwersyll Camp Bastion mae hi’n gorfod trin llawer o blant ac felly mae wedi cael profiadau newydd yn y gwersyll. Mae'r trydydd nyrs, Nia, yn delio â llawer o anafiadau difrifol ac yn mwynhau’r her. Cyfres ' O'r Galon' a ddarlledwyd gyntaf ar S4C ar 10 Ionawr 2009.

Release date:

Duration:

2 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu