Main content

Dinasoedd cynaliadwy - dinasoedd ar orlifdiroedd

Afon Rideau yw un o brif ddyfrffyrdd Ottawa yng Nghanada. Mae'n ymdroelli trwy'r ddinas ond yn y gaeaf bydd yn rhewi'n gorn. Mae pont droed isel yn croesi'r afon ond mae llif uchel y gaeaf wedi ffurfio rhaeadr dros y bont a hwnnw wedi rhewi gan greu wal solid o rew. Mae'r rhew yn gweithredu fel argae naturiol, gan achosi i lefel yr afon godi a bygwth gorlifo i gartrefi a busnesau cyfagos. Rhaid wrth gynllun dyfeisgar i ddinistrio'r argae naturiol yma - ffrwydron!

Release date:

Duration:

5 minutes