Main content

Dinasoedd cynaliadwy - tlodi

Tomen sbwriel yw Kibarani, ar gyrion Mombasa yn Kenya. Mae sawl mil o bobl yn byw yma mewn tlodi difrifol, gan geisio ennill rhyw fath o fywoliaeth trwy chwilota yn y mynyddoedd gwastraff am ddarnau o blastig neu fetel i’w gwerthu ar gyfer eu hailgylchu.
Does ganddyn nhw ddim dŵr glân, cyfleusterau iechyd, ysgolion na thai parhaol. Mudwyr o ardaloedd gwledig cyfagos yw’r mwyafrif o drigolion Kibarani sydd wedi methu cael gwaith yn y ddinas. Cawn gwrdd ag Assha a’i theulu, sy’n byw yn Kibarani. Maen nhw’n helwyr-gasglwyr modern sydd wedi ymaddasu i oroesi yn yr amgylchedd unigryw yma a grëwyd gan ddyn.

Release date:

Duration:

6 minutes