Main content

Dyfroedd cynaliadwy - pysgota cynaliadwy

Mae cymuned sy’n byw ar Ynys Lembata, Indonesia, yn dibynnu’n llwyr ar y môr i ddarparu eu bwyd. Ym mhentref Lamalera maen nhw’n pysgota mewn dull syml, traddodiadol, sydd heb newid am flynyddoedd. Mae hi’n dymor hela morfilod ac mae’r pentrefwyr yn benderfynol o ddal morfilod gwyn sy’n mudo. Dim ond tua chwe morfil gwyn y flwyddyn mae trigolion Lamalera yn ei ddal. Dyma beth yw pysgota cynaliadwy. Mae dal morfil yn gweddnewid bywyd y pentrefwyr, gan fod ei gig, ei esgyrn, ei groen a’i fraster yn gweithredu fel arian ar yr ynys bellennig hon.

Release date:

Duration:

5 minutes