29/12/2024
Iwan Steffan yn mynd ar daith o Lerpwl i Riwlas i ymweld â’i deulu i drafod cerddoriaeth a’i fywyd teuluol. Iwan Steffan talks about his life's journey through music.
Iwan Steffan sy'n mynd ar daith o Lerpwl i Riwlas i ymweld â’i deulu. Taith gerddorol, emosiynol a chorfforol ble mae Iwan yn cyfarfod aelodau o’r teulu i drafod cerddoriaeth a’u bywyd teuluol.
Yn wreiddiol o Riwlas, mae Iwan bellach wedi ymgartrefu yn Lerpwl ble mae'n ddylanwadwr TikTok ac yn creu cynnwys ar gyfer platfformau cyfryngau cymdeithasol personol a thudalennau bwytai ar draws y wlad. Gyda 180k o ddilynwyr a dros 5 miliwn o 'likes' ar TikTok, mae cynnwys tudalen Iwan yn aml yn dilyn straeon arswyd ac ysbrydion sydd yn denu miloedd o wylwyr ac yn ennyn diddordeb ar draws y wlad a thu hwnt.
Wrth iddo dyfu fyny yng Ngogledd Cymru, mynegai Iwan y bu wastad yn teimlo'n 'wahanol' a 'ddim yn ffitio mewn ‘i gymdeithas draddodiadol y Cymry'. Cafodd ei fagu mewn cartref creadigol gyda'i dad Steve Eaves, a'i chwiorydd Lleuwen Steffan a Manon Steffan Ros. Ond yn dilyn colled ei fam yn ifanc iawn, roedd Iwan yn teimlo 'ar goll' yng Ngogledd Cymru ac eisiau cychwyn bywyd newydd yn Lerpwl. Cafodd gyfle eleni i gyflwyno ar y carped coch yn ystod yr Eurovision Song Contest yn Lerpwl.
Yn ddiweddar, mae Iwan wedi croesi'r ffin yn ôl i Gymru i gyflwyno cyfres newydd deledu i blant, ac mae wedi bod yn hapus iawn i dreulio amser unwaith eto yn ardal ei fagwraeth. Gyda'i arddull naturiol dyner a'i gymeriad hoffus a chynnes, mae Iwan yn trafod materion dyrys bywyd mewn modd twymgalon a dyrchafol. Ymysg y caneuon sy’n cael eu chwarae a'u trafod mae’r trac, 'Nos Da, Mam' o'r albwm 'Moelyci' gan Steve Eaves. Hyd at heddiw, mae Iwan yn cael trafferth i wrando ar yr albwm ac ar y gân arbennig yma, sy'n golygu cymaint iddo. A'r albwm sydd ym marn Iwan, 'y darn gorau o waith Dad erioed... a mynydd Moelyci sydd tu cefn i'r tŷ, ble mae llwch Mam wedi gwasgaru'.
Ar y Radio
Darllediadau
- Sul 29 Rhag 2024 19:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
- Dydd Calan 2025 18:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru