Jennifer Jones yn cyflwyno
Trin a thrafod Cymru a'r byd, gan godi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.
Y gohebydd gwleidyddol, Catrin Haf Jones, sy'n edrych mlaen at araith Keir Starmer yng nghynhadledd y Blaid Lafur, a chawn glywed sut awyrgylch sydd yno yng nghwmni'r sylwebydd Dafydd Rees.
Ac wrth i Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig baratoi i gwrdd yn Efrog Newydd, y newyddiadurwr Tom Lewis sy'n trafod arwyddocad y cyfarfod yma i Arlywydd Zelensky ag Wcrain.
Alwen Pennant o elusen Age Cymru a Jaci Gruffudd sy'n trafod sut mae unigedd yn gallu gwneud i bobl deimlo'n ynysig yn enwedig os ydych chi'n berson hÅ·n;
Gyda chofeb o Margaret Haig Thomas, Arglwyddes Y Rhondda, yn cael ei ddadorchuddio yng Nghasnewydd yr wythnos hon, cyfle i olrhain ei hanes gydag Emma Price;
A Beryl Evans o'r Llyfrgell Genedlaethol a'r awdur Eleri Thomas sy'n trafod pam bod cynnydd diweddar wedi bod mewn hel achau?
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Clip
Darllediad
- Maw 24 Medi 2024 13:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru