Alun Thomas yn cyflwyno
Trin a thrafod Cymru a'r byd, gan godi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.
Gyda chynnydd diweddar yn y nifer o amrywiaethau o goffi, y dietegydd Sioned Quirke sy'n ystyried os ydyn ni'n euog o yfed lefelau rhy uchel o gaffein sy'n gallu bod yn niweidiol i'r corff? A Lisa Fearn o gaffi "Y Sied Goffi" yng Nghaerfyrddin sy'n trafod sut mae cymaint o ddewis o goffi yn ein hannog i yfed mwy?
Wrth i'r llofnod ysgrifenedig ddirwyn i ben, Keith Bush sy'n trafod beth yw goblygiadau hynny ym maes y gyfraith, ac yn cymryd cipolwg ar y defnydd o'r llofnod mewn dogfennau cyfreithiol dros y blynyddoedd;
A gyda nifer bellach yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i ysgrifennu'r C.V. wrth ymgeisio am swyddi, Catrin Owen o Gyrfa Cymru sy'n egluro pam ei bod hi'n bwysig ailwampio’r cais er mwyn denu sylw'r cyflogwr.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Clipiau
-
Diwedd y llofnod
Hyd: 10:32
Darllediad
- Iau 12 Medi 2024 13:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru