Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Jennifer Jones yn cyflwyno

Trin a thrafod Cymru a'r byd, gan godi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.

Ymateb i'r newyddion sydd wedi torri na all y Blaid Geidwadol gefnogi dau ymgeisydd yn dilyn honiadau o fetio, ac un o'r rheini yn sefyll yng Nghymru.

Y sylwebydd gwleidyddol Dylan Iorwerth yn edrych yn ôl ar hanes Julian Assange wrth iddo gael ei ryddhau o garchar a gadael y Deyrnas Gyfunol wedi saga gyfreithiol sydd wedi para dros ddegawd.

Stori bersonol Lindsey Ellis o'r Bala a'i thaith o oroesi Cancr y Coluddyn, ac sy'n credu'n gryf mewn rhannu ei stori er mwyn codi ymwybyddiaeth am yr afiechyd.

Ydi ffotograffwyr priodasol yn tarfu'n ormodol ar y gwasanaeth priodas y dyddiau hyn? Y ffotograffydd Betsan Haf Evans a'r Parch Beti Wyn James sy'n trafod.

A Hannah Stevenson o Aberteifi yn siarad am bwysigrwydd hygyrchedd i bobl sydd â nam golwg.

1 awr

Darllediad diwethaf

Maw 25 Meh 2024 13:00