Main content

Dafydd Rhys

Beti George yn sgwrsio gyda Dafydd Rhys Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru. Beti George chats to Dafydd Rhys Chief Executive for Arts Council Wales.

Dafydd Rhys Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru yw gwestai Beti George.
Mae'n trafod heriau ariannol y mae'r sector yn eu hwynebu a'r cyfrifoldeb sydd arno a'r anrhydedd o gael gwneud y swydd.

Cafodd Dafydd ei eni yn Brynaman ac roedd ei Dad yn Weinidog a’i Fam yn ddiwylliedig ac yn gerddorol yn chwarae’r delyn a’r piano. Oherwydd swydd ei Dad roedd Dafydd a’r teulu yn symud yn aml. Mae Dafydd wedi byw ddwywaith yn ardal Llanelli yn ystod ei fywyd ac felly mae’r ardal yma yn agos iawn at ei galon.

Yna fe ddaeth cyfnod y 70’au, ’76 a ’77 ȃ cherddoriaeth Pync.
Fe newidiodd y gerddoriaeth yma fywyd Dafydd yn llwyr. "Mi ddechreuais i fand o’r enw'r‘ Llygod Ffyrnig’ ac mae Beti'n chwarae sengl o’r enw NCB – National Coal Board a Dafydd oedd y prif ganwr.

Dechreuodd Dafydd gwmni teledu annibynnol gyda Geraint Jarman. Cwmni Criw Byw a nhw oedd yn gyfrifol am Fideo Naw.

Bu'n gweithio gyda S4C am gyfnodau ac mae'n trafod pwysigrwydd y sefydliad.

Ar gael nawr

51 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 5 Mai 2024 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr

    Ethiopia Newydd

    • Neb Yn Deilwng 1977 - 1997 Goreuon Cyfrol CD1.
    • SAIN.
    • 2.
  • Llygod Ffyrnig

    N.C.B

    • N. C. B..
    • Pwdwr.
    • 1.
  • Y Cyrff

    Llawenydd Heb Ddiwedd

    • Atalnod Llawn.
    • Rasal.
    • 20.
  • Elin Manahan Thomas

    Gweddi Pechadur

    • Byd y Soprano.
    • Sain.
    • 13.

Darllediad

  • Sul 5 Mai 2024 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad