Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Jennifer Jones yn cyflwyno

Sgyrsiau'n cynnwys y diweddaraf ar y rhyfel yn Gaza, cynnydd troseddau cyllyll, y gost o berchen car a phersawr sydd ag arogleuon y byd marchogaeth. Discussing Wales and the world.

Caitlin Kelly, sydd yn gweithio yn Jerwsalem, sydd yn trafod yr ymdrechion diweddaraf i ddod â'r brwydro yn Gaza i ben wrth i ymosodiadau Israel yn erbyn Hamas yn ninas Rafah barhau;

Wrth i'r ystadegau ddangos bod 'na gynnydd cyffredinol mewn troseddau yn ymwneud a chyllyll, Millie Mae-Adams ac Efan Rhys Fairclough o elusen Street Doctors sy'n addysgu pobl ifanc am yr hyn ddyle nhw ei wneud wrth wynebu trais trwy gyllyll - ymhlith pethau eraill;

Y gohebydd moduro Mark James sy'n ymateb i ffigyrau diweddar sy'n dweud bod y gost o fod yn berchen ar gar wedi cynyddu'n aruthrol dros y dair blynedd diwethaf;

A pham meddai chi mae persawr sydd ag arogleuon y byd marchogaeth yn profi'n boblogaidd? Melanie Owen, cyflwynydd y rhaglen Ffermio ar S4C sy'n trafod.

1 awr

Darllediad diwethaf

Maw 7 Mai 2024 13:00