Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Dewi Llwyd yn cyflwyno

Olrhain hanes Bardd y Brenin, Edward Jones, trafod sut mae mynd ati i ail gyhoeddi hen lyfrau Cymraeg, ac edrych ymlaen at chwaraeon y penwythnos. Discussing Wales and the world.

Wrth i'r holi barhau am gyfraniad ariannol dadleuol i'w ymgyrch, mae'r prif weinidog Vaughan Gething wedi bod yn ateb cwestiynau gan un o bwyllgorau'r senedd heddiw. Mae Dewi Llwyd yn trafod os yw'r ffrae wedi bwrw cysgod dros wythnosau cynnar ei arweinyddiaeth;

 hithau eleni yn 200 mlwyddiant ers marwolaeth Edward Jones, Bardd y Brenin, Elinor Bennett sy'n olrhain ei hanes;

Adam Pearce o gwmni Llyfrau Melin Bapur sy'n sôn sut mae'n mynd ati i ail gyhoeddi hen lyfrau Cymraeg, rhai sydd allan o brint, ac eraill sydd wedi ymddangos mewn rhifolion cylchgronau;

A Ffion Eluned Owen, Geraint Cynan a'r gohebydd Owain Llyr, sy'n edrych mlaen at gampau chwaraeon y penwythnos ar drothwy gêm ola menwyod Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

1 awr

Darllediad diwethaf

Gwen 26 Ebr 2024 13:00

Darllediad

  • Gwen 26 Ebr 2024 13:00