Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Dewi Llwyd yn cyflwyno

Trin a thrafod Cymru a'r byd, gan godi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.

Wrth i Gyngres yr Unol Daleithiau gwrdd yfory i benderfynu a ddylid cynnig pecyn o gymorth ariannol i'r Wcráin, Iolo ap Dafydd sydd yn ymuno gyda Dewi i drafod pryderon bod Rwsia yn ennill tir, a'r gefnogaeth i'r Wcráin yn lleihau am fod rhyfel arall wedi bod yn hawlio sylw'r byd ers chwe mis.s.

Dyfed Cynan, Hana Medi a'r gohebydd Dylan Griffiths, sy'n edrych mlaen at gampau chwaraeon y penwythnos, a thwyll ym maes celf sy'n mynd â sylw Gwenllian Beynon yn dilyn achos diweddar yng Nghanada,

Hefyd, wrth i gwmni Metro-Goldwyn-Mayer ddathlu'r 100 yr wythnos hon, Dr Kate Woodward sy'n olrhain hanes MGM ac yn trafod sut wnaeth y cwmni siapio tirlun y diwydiant ffilmiau.

1 awr

Darllediad diwethaf

Gwen 19 Ebr 2024 13:00

Darllediad

  • Gwen 19 Ebr 2024 13:00