Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Alun Thomas yn cyflwyno

Trin a thrafod Cymru a'r byd, gan godi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.

Ydi safle Llundain fel un o brif ganolfannau ariannol y byd mewn peryg? Dyna un o'r pynciau fydd yn cael sylw Alun Thomas. A rhybudd hefyd i berchnogion beiciau trydan ar ôl i feic fynd a'r dân ar orsaf drên yn ardal Llundain yn ddiweddar.

Oes na ormod o rym yn cael ei roi i ddylanwadwyr arlein? Dyna sydd dan sylw gan y dylanwadwr Jess Davies ac Owen Williams sy'n arbenigwr ar gyfryngau cymdeithasol;

Hefyd, wrth i astudiaeth gyhoeddi bod Eidalwyr yn defnyddio deugain ystum y funud, cawn drafod sut mae gwahanol ddiwylliannau yn cyfathrebu yng nghwmni'r Gymraes o dras Eidalaidd Francesca Sciarillo a'r cymdeithasegydd Dr Cynog Prys o brifysgol Bangor; a Dr. Angharad Closs Stephens sy'n trafod pa rôl mae hunaniaeth cenedlaethol yn ei chwarae yng nghyd-destun cenedligrwydd?

1 awr

Darllediad diwethaf

Iau 11 Ebr 2024 13:00

Darllediad

  • Iau 11 Ebr 2024 13:00