Main content

Hazel Thomas

Beti George yn sgwrsio gyda Hazel Thomas, Cydlynydd Prosiect Canolfan Tir Glas a'r fenyw gyntaf i fod yn Chef yn y Dorchester, Llundain.
Beti George chats to Hazel Thomas.

Mae gan Hazel Thomas straeon rif y gwlith, mi fu’n torri gwalltiau, yn gwneud gwaith hyrwyddo a datblygu gyda Merched y Wawr. Mae hi'n Gydlynydd cynllun cyffroes Tir Glas gyda’r Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan, ond yn fwy na dim hi oedd y fenyw 1af i weithio fel Chef yng nghegin y gwesty enwog The Dorchester yn Llundain.
Ei swydd gyntaf fel Cogydd proffesiynol oedd gydag Anton Mosimann yn y Dorchester yn 1977. Y ferch gyntaf i gael swydd ganddo ar ôl iddo gael ei benodi fel Prif Gogydd y Dorchester.
Cawn hanesion difyr bywyd y ferch o Drefach, aeth i weithio i Lundain o gefn gwlad Cymru yn y 70'au. Cawn hanes rhai o'r bobol enwog y bu'n coginio iddynt gan gynnwys Shirley Bassey.

Ar gael nawr

51 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 17 Maw 2024 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Huw Chiswell

    Y Cwm

  • Siân James

    Mil Harddach Wyt

  • Catrin Finch

    Lisa Lân

  • C.O.R. & °äô°ù»å²â»å»å

    Wele'n Sefyll Rhwng y Myrtwydd

Darllediad

  • Sul 17 Maw 2024 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad