Main content

Yr Arglwydd Dafydd Wigley

Beti George yn sgwrsio gyda Yr Arglwydd Dafydd Wigley. Beti George chats to Lord Dafydd Wigley about his life and 50 years in politics.

Yr Arglwydd Dafydd Wigley yw gwestai Beti George, a hynny 50 mlynedd ers ei ethol i San Steffan eleni. Mae'n trafod hanesion ei fywyd prysur ac yn dewis ambell gân.

Wedi 50 mlynedd mewn gwleidyddiaeth mae'r Arglwydd Dafydd Wigley wedi penderfynu ymddeol o Dŷ'r Arglwyddi eleni. Mae’n dal record o ran Aelod Seneddol i gynyddu’r bleidlais a chynyddu canran y bleidlais a hynny mewn 5 etholiad yn olynol. Mae e wedi cynrychioli Arfon yn Senedd San Steffan am 27 mlynedd.

Fe gafodd Mr Wigley ei ethol yn gynghorydd Plaid Cymru ym Merthyr yn 1972, cyn cynrychioli Caernarfon yn NhÅ·'r Cyffredin rhwng 1974 a 2001.

Roedd yn Aelod Cynulliad i Gaernarfon rhwng 1999 a 2003 ac mae wedi bod yn aelod o DÅ·'r Arglwyddi ers 2011.

"Pan ddes i Dŷ'r Arglwyddi gyntaf ddeng mlynedd yn ôl, doedd aelodau fan hyn ddim yn cael ymddeol, mi oeddan nhw'n mynd allan pan oeddan nhw'n marw. Ond wrth gwrs mae hawl i ymddeol wedi dod i fewn."

Cawn stori’r Gangster, Murray the Hump - Llewellyn Morris Humphreys, fyddai wedi bod yn drydydd cefnder i Dafydd Wigley, ef wnaeth greu Las Vegas , cafodd ei recriwtio gan Al Capone ac a oedd ganddo ran yn llofruddiaeth JFK?

Ar gael nawr

1 awr, 17 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 10 Maw 2024 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • William Mathias

    Improvisations for Harp, Op. 10: I. Allegro moderato

    • Santa Fe Suite (20th Century Harp Classics).
    • Nimbus Records.
    • 19.
  • Bryn Terfel, Sion Owen, Phylip Nichols, Iwan Griffiths, Aled Powys Williams & Osian Rowlands

    Mae'r gwynt yn deg

    • Sea Songs.
    • Deutsche Grammophon (DG).
    • 15.
  • 9Bach

    ¹ó´Ú²¹°ù·Éé±ô

    • Tincian.
    • Real World Records.
    • 7.
  • Dafydd Iwan & Ar Log

    Yma O Hyd

    • Tri Degawd Sain (1969 - 1999) CD2.
    • SAIN.
    • 18.

Darllediad

  • Sul 10 Maw 2024 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad