Adam Jones
Beti George yn sgwrsio gyda'r Garddwr Adam Jones. Beti George chats to Adam Jones Welsh Gardener.
Garddwr o Ddyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin yw Adam Jones, neu Adam yn yr ardd fel mae'n cael ei adnabod. Fe gychwynnodd ei ddiddordeb mewn garddio pan oedd yn 3 blwydd oed yng ngardd tad-cu yn tyfu llysiau o bob math mewn gardd fach yng Nglanaman. Roedd ei Dad-cu yn fentor pwysig iawn iddo ac ef wnaeth gychwyn a meithrin ei sgiliau a’i wybodaeth am arddio. " Mae 'na dueddiad di bod yn y gorffennol i wneud garddio yn rhywbeth uchel-ael ti'n gwybod tu hwnt i gyrraedd y werin datws" meddai Adam wrth Beti George.
Tu hwnt i’r ardd, mae Adam yn dipyn o ieithydd.
Yn ystod ei gyfnod yn y Coleg yn Aberystwyth, astudiodd Almaeneg ac mae’n siarad yr iaith, ynghyd â Sbaeneg, rhywfaint o Ffrangeg ac Eidaleg, ac ychydig o Rwsieg, Pwyleg, Tyrceg, Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban.
“Dw i’n meddwl fy mod i’n berson eithaf busneslyd ac achos hynny dw i’n licio dysgu ieithoedd. Dw i’n gwylio lot o ffilmiau a rhaglenni mewn ieithoedd gwahanol".
Bu’n gweithio ym myd cyfieithu a chyfathrebu ar ôl graddio, gyda’r Mentrau Iaith ac yna’r Coleg Cymraeg, ond roedd rhywbeth ar goll, ac roedd yn awchu am fod allan ar y tir neu yn yr ardd.
Ar ôl prynu ei gartref cyntaf gyda Sara, sy’n wraig iddo nawr, dechreuodd ailwampio’r ardd, a rhannu ei waith ar Instagram.
Darllediad diwethaf
Cerddoriaeth a chwaraewyd
-
Y Brodyr Gregory
Mrs Jones
- Gorau Sain Cyfrol 1.
- SAIN.
- 15.
-
²Ñà ²Ô°ù²¹²Ô
Tillidh Mi
- The Test.
- ²Ñà ²Ô°ù²¹²Ô Records.
- 8.
-
Elidyr Glyn
Yr Eneth Gadd Ei Gwrthod
- Ambell i Gân 2.
- Sain (Recordiau) Cyf.
-
Gwilym
Neidia
- Recordiau Côsh Records.
Darllediadau
- Sul 25 Chwef 2024 18:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2 & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
- Iau 29 Chwef 2024 18:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2
Archif Beti a'i Phobol
Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.
Podlediad
-
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people