Y Rhif Pedwar a'r Flwyddyn Naid
Gan bod 2024 yn flwyddyn naid, mae John Hardy yn pori drwy'r archif gan ganolbwyntio ar y Rhif Pedwar a Neidio.
Y Rhif Pedwar a Neidio bydd thema Cofio yr wythnos hon.
Cawn daflu cip olwg yn ôl ar naid fuddigol Lynn Davies yng Ngemau Olympaidd Tokyo yn 1964.
Selyf Roberts ar "Rhwng Gwyl a Gwaith" yn esbonio pam bod yna flwyddyn naid bob pedair blynedd.
Edrychwn yn ôl ar farn y Cymry am ddarlledu yn yr iaith Gymraeg ar drowthwy lawnsio Sianel Pedwar Cymru.
Aelod o'r grwp gwerin Pedair, Sian James yn hel atgofio o'i phlentyndod gyda Beti George.
Y darlledwr Lynn Davies yn sgwrsio gyda dau Lyn arall sef Lyn Davies y sylwebydd chwaraeon a Lyn Davies y cerddor.
Yr actor a'r gweinidog Gwyn Elfyn yn sôn wrth Aled Hughes am sut beth yw hi i ddathlu penblwydd ar Chwefror y 29ain.
Wyn Thomas yn sgwrsio gyda Hywel a Nia am y naid o fod yn fachgen ysgol i actio yn SOS Galw Gari Tryfan ar y radio.
Elin Maher sy'n sgwrsio am ddathlu ei phenblwydd ar Chwefror y 29ain.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 25 Chwef 2024 13:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2 & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
- Llun 26 Chwef 2024 18:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2