Main content

Nayema Khan Williams

Beti George yn sgwrsio gyda Nayema Khan Williams nyrs sydd wedi mentro i fyd busnes. Beti George chats to Nayema Khan Williams, a nurse who's ventured into the world of aesthetics.

Nayema Khan Williams sy’n ymuno â Beti. Mae Nayema a’i gŵr Osian yn rhan o gyfres Gogglebocs Cymru ar S4C ar hyn o bryd. Cawn glywed ei hanes difyr yn mentro o fyd y gwasanaeth iechyd i fyd triniaethau anfeddygol.
Cafodd ei magu yng Nghaernarfon, daeth ei rhieni – Mirwas Kahn a Zari Kahn y ddau’n wreiddiol o Pacistan. Daeth ei thad draw yn y 50/60au i Gaernarfon ac fe ddilynodd ei mam wedyn . Mae Nayema yn un o naw o blant a hi ydi’r ieuengaf ond un.
Gwraig tŷ oedd ei mam a phan ddaeth ei thad draw o Bacistan i gychwyn bu’n gwerthu bagiau o gwmpas y tafarndai. Yna bu’n gwerthu bagiau yn farchnad Caernarfon ac mewn marchnadoedd eraill am flynyddoedd.
Cafodd ei magu’n Moslem ac 'roedd ei thad yn ffigwr blaenllaw yn y Mosque ym Mangor.
Mae Naymea’n credu’n gryf fod angen mwy o ferched fentro mewn busnesau ac na ddylai merched ddim bod ofn cymryd y risg i ddechrau a chychwyn busnesau eu hunain.

Ar gael nawr

50 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 18 Ion 2024 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Bwncath

    Fel Hyn Da Ni Fod

    • Rasal Music.
  • Taylor Swift

    All Too Well (Taylor's Version)

    • Red (Taylor's Version).
    • Taylor Swift.
    • 5.
  • Paramore

    The Only Exception

    • Brand New Eyes.
    • Fueled By Ramen.
    • 6.
  • Yws Gwynedd

    Sebona Fi

    • CODI CYSGU.
    • Recordiau Côsh Records.
    • 7.

Darllediadau

  • Sul 14 Ion 2024 18:00
  • Iau 18 Ion 2024 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad