Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Mis Rhagfyr

Archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy ar y thema 'Rhagfyr'. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Ar ddiwedd blwyddyn John Hardy sy'n mwynhau goreuon yr archif gan edrych yn ôl ar fis Rhagfyr gan gynnwys atgofion Dic Jones am bluo tyrcwn a'r awdur Geraint Evans yn olrhain hanes yr ehediad awyren cyntaf erioed gan y brodyr Wright gant ag ugain o flynyddoedd yn ôl. Ceir hefyd;

Alwyn Humphreys yn dadansoddi cerddoriaeth aeafol glasurol Leroy Anderson 'Sleigh Ride'; atgofion Blodwen Evans a fu'n forwyn teulu i'r Prif Weinidog Lloyd George a etholwyd ym mis Rhagfyr 1916; Julia Barnes sy'n cofio cwrdd â Thywysog Phillip fis Rhagfyr 1955 pan ddaeth Caerdydd yn brifddinas; Jennie Thomas sy'n cofio llwyddiant ysgubol Llyfr Mawr y Plant; y band Plu sy'n perfformio 'Cân y Babis' fis Rhagfyr 2013. Hanes y morwr Hugh Williams a'r llongddrylliadau ar Ragfyr y 5ed a geir gan Jane Edwards; a Llŷr Gwyn Lewis oedd wedi ei ysbrydoli i farddoni am heuldro'r gaeaf. Rhian Morgan sy'n cofio ei phrofiad yn cyd-actio gydag Anthony Hopkins aned fis Rhagfyr; a Gary Slaymaker sydd â hanes Charlie Chaplin fu farw ar ddydd Nadolig yn 1977. Sulwyn Tomos yn cofio dyddiau'r eira mawr ym mis Rhagfyr wrth ddarlledu ei filfed Stondin, ac yn nhymor y panto Dyfan Roberts sy'n cofio bod yn aelod o gast cyntaf o'r fath yn y Gymraeg.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Dydd Calan 2024 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Cerddorfa Genedlaethol Gymreig Y Â鶹ԼÅÄ & Corws Cenedlaethol Gymreig y Â鶹ԼÅÄ

    Sleigh Ride

  • Gwyneth Glyn

    Du Ydi'r Eira

    • Tonau.
    • Recordiau Gwinllan.
    • 3.
  • Siân James

    Dan Nawdd Duw (Nadolig 1916)

  • 405's

    Suai'r Gwynt

    • Nadolig The 405s.
    • NA3.
    • 8.
  • Meredydd Evans

    Robin Goch

Darllediadau

  • Sul 31 Rhag 2023 13:00
  • Dydd Calan 2024 18:00