Main content

Felicity Roberts

Beti George yn sgwrsio gyda'r tiwtor Cymraeg i Oedolion Felicity Roberts. Beti George chats with the Welsh Language Tutor for adults Felicity Roberts.

Mae Felicity Roberts yn Diwtor a Chydlynydd Cymraeg i Oedolion yn Dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae wedi bod yn diwtor Cymraeg am dros hanner can mlynedd. Yn 2023 enillodd wobr am fod yn diwtor Cymraeg Ysbrydoledig gyda ‘Inspire Awards’ dan nawdd Llywodraeth Cymru.

Magwyd Felicity ar aelwyd llawn cariad yn Chwilog a bu ei magwraeth yno yn ysbrydoliaeth iddi ar hyd ei hoes. Cafodd ei haddysg yn ysgol gynradd Chwilog hyd nes roedd hi’n 8 oed, yna am 3 blynedd bu’n aros yng nghwfaint St Gerard’s Bangor. Roedd ei rhieni’n awyddus iddi gael addysg yn y cwfaint er mwyn gwneud yn siŵr bod Felicity yn pasio’r arholiad 11+. Yna mynychodd Ysgol Ramadeg Pwllheli ac ar ôl 2 flynedd ym Mhwllheli safodd yr arholiadau i fynd i Ysgol Howells yn Ninbych.

Ers dyddiau ysgol roedd hi wedi bod yn canlyn Robert Roberts ac roedd y ddau’n fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor. Priododd y ddau ar ddiwedd eu blwyddyn gyntaf a ganwyd eu plentyn cyntaf ar ddiwedd eu hail flwyddyn, y cyntaf o chwe phlentyn i'r ddau.

Swydd gyntaf Felicity pan symudodd y teulu i fyw i Flaenplwyf, oedd swydd rhan amser fel cynorthwyydd ymchwil i ysgolion Meithrin Cymru. Yn 1978 cafodd radd mewn Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth ac mi gafodd swydd yn yr adran Gymraeg yn dysgu Cymraeg i ddechreuwyr yno. Ni adawodd Felicity yr adran Gymraeg wedyn am 27 mlynedd.

Daeth ei phriodas â Robert i ben ac mae hi mewn perthynas ers 44 o flynyddoedd efo Jaci ac mae'n byw bywyd prysur iawn rhwng y gwaith a'r teulu mawr.

Ar gael nawr

48 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 26 Hyd 2023 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Ludwig van Beethoven

    Piano Sonata No. 14 in C-Sharp Minor, Op. 27, No. 2, "Moonlight": I. Adagio sost

    • LlÅ·r Williams: Beethoven Unbound.
    • Signum Records.
    • 28.
  • Côr Telynau Tywi

    Cân Y Celt

    • Cor Telynau Tywi.
    • SAIN.
    • 8.
  • Huw a Beth

    Cred Ti Fi

Darllediadau

  • Sul 22 Hyd 2023 18:00
  • Iau 26 Hyd 2023 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad