Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas

Ffion Dafis yn ymweld â Thalacharn gydag Alun Gibbard a Cerys Matthews ac yn dathlu gydag enillwyr gwobrau celfyddydol. The arts scene in Wales and beyond with Ffion Dafis.

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. Â hithau yn Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas mae Ffion yn ymweld â Thalacharn yng nghwmni Alun Gibbard a Cerys Matthews ac hefyd yn cael cwmni cast cynhyrchiad newydd 'Cosi Fan Tutte', Opra Cymru.

Mae'r tymor gwyliau celfyddydol yn eu hanterth, a'r wythnos nesaf mae Elin Rhys yn derbyn gwobr arbennig yng Ngŵyl Ffilmiau Bae Caerfyrddin am ei chyfraniad i'r byd celfyddydol, ond cyn hynny mae yn taro heibio'r stiwdio am sgwrs, fel yr awdur John Sam Jones cyn iddo yntau ddychwelyd yn ôl i'r Almaen lle mae yn byw bellach, ond mae wedi bod ar ymweliad â Chymru drwy'r wythnos yn hyrwyddo ei waith.

Arddangosfa o waith yr artist Anna Davies sydd yn cael sylw Elen Wyn yn Oriel Ffin-y-Parc, Llanrwst. Ac yna i gloi, mae Ffion yn cael cwmni y cyfarwyddwr theatrig Geinor Styles â hithau newydd ennill gwobr yr wythnos hon fel cydnabyddiaeth am ei chyfraniad i'r byd perfformio.

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 14 Mai 2023 14:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Siân James

    Cariad Cyntaf

    • Gweini Tymor.
    • SAIN.
    • 8.
  • Cerddorfa Genedlaethol Gymreig Y Â鶹ԼÅÄ & Ryan Bancroft

    Masquerade - Anna Clyne - Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ԼÅÄ

  • Parisa Fouladi

    Siarad

  • Kanda Bongo Man

    Sai

    • Soukous African Soul.
    • Kanda Bongo Man Prod.
    • 1.
  • Cerddorfa Genedlaethol Gymreig Y Â鶹ԼÅÄ & Ryan Bancroft

    Seaguard

  • Catsgam

    Dyddiau (Acwstig)

    • Sgam.
    • Fflach.
  • Kuljit Bhamra, Catrin Finch, Jackie Shave, Lydia Lowndes-Northcott, Robert Irvine, Eliza Marshall, Dónal Rogers, Joby Burgess & Evan Carson

    Rain Coming

    • Freedom to Roam: The Rhythms of Migration.
    • Goatskin Records.
  • Ciwb & Iwan Huws

    Laura

    • Recordiau Sain Records.

Darllediad

  • Sul 14 Mai 2023 14:00