Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

02/04/2023

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddyol yn ei holl amrywiaeth a hynny yng Nghymru a thu hwnt.

Heddiw, mae Ffion yn cael cwmni yr adolygydd celf Rian Evans wrth i Oriel Martin Tinney yng Nghaerdydd gau ei drysau ar ôl 30 mlynedd yn hybu a chefnogi'r celfyddydau gweledol yng Nghymru. Yn ymuno hefyd yn y sgwrs mae'r artist Catrin Wiliams.

 hithau yn benwythnos Gŵyl Lenyddol Machynelleth mae Grug Muse a Mike Parker yn sgwrsio'n fyw o'r dref am weithgareddau'r penwythnos a'r hyn sydd i ddod yn ystod y dydd.

Mae Manon Steffan Ros yn mentora dwy o awduron newydd sbon fel rhan o gynllun AwDUra, Mudiad Ysgolion Meithrin - cawn glywed mwy gan Manon am y prosiect arloesol yma.

Ac yna, i gloi, mae tair o actoresau mwy profiadol Cymru, Valmai Jones, Olwen Rees a Gaynor Morgan Rees yn sgwrsio am bwysigrwydd creu rhannau a chastio merched hÅ·n ym mhob cyfrwng theatrig. Ac yn ystod y sgwrsio gyda'r dair mae cyfle hefyd i dalu teyrnged i'r actores Christine Pritchard, a fu farw'n ddiweddar.

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 2 Ebr 2023 14:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Cerys Hafana

    Bwthyn fy Nain, Ty Bach Twt

    • Cwmwl.
    • Cerys Hafana.
  • Cerddorfa Gendlaethol Gymreig y Â鶹ԼÅÄ & Tadaaki Otaki

    Elizabeth Maconchy: Nocturne for Orchestra *

  • Huw Chiswell

    Frank A Moira

    • Goreuon.
    • Sain.
    • 12.
  • Gwilym Bowen Rhys

    Canu'n Iach I Arfon

    • O Groth Y Ddaear.
    • FFLACH TRADD.
    • 2.
  • Catrin Finch, Sinfonia Cymru & John Rutter

    Rutter: Suite Lyrique - 2. Ostinato

    • Blessing.
    • Deutsche Grammophon (DG).
    • 11.
  • Bwncath

    Yma Wyf Finna I Fod

Darllediad

  • Sul 2 Ebr 2023 14:00