Main content

Rhiannon Boyle

Beti George yn sgwrsio gyda'r dramodydd Rhiannon Boyle. Beti George chat's to Writer Rhiannon Boyle.

Y dramodydd Rhiannon Boyle yw'r gwestai. Mae ei drama newydd ar gyfer Radio Cymru, 'Lysh', wedi’i selio ar brofiadau personol a’i pherthynas hi gydag alcohol.

Pan fyddai hi'n yfed roedd yn tueddu o yfed tipyn ar y tro, gan fynd dros ben llestri a gwneud pethau gwirion. Wedi iddi roi'r gorau i yfed am fis, teimlodd bod ei hiechyd meddwl wedi gwella, ac roedd hi'n cysgu'n well.

O ganlyniad, mi benderfynodd beidio ag yfed alcohol eto.

Cawn glywed am sut y dechreuodd astudio Drama yn yr ysgol, wedi cyfnod anodd ar Γ΄l i'w rhieni wahanu, a sut y newidiodd ei byd.

Clywn hefyd am rai o'i dramΓΆu, yn cynnwys 'Safe From Harm' i Radio 4, sydd dal ar Βι¶ΉΤΌΕΔ Sounds; 'Anfamol' a gynhyrchwyd gan y Theatr Genedlaethol, a'i chomisiwn diweddaraf i addasu'r nofel 'Un Nos Ola Leuad' ar gyfer Radio 4 a Radio Cymru.

Ar gael nawr

50 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 29 Ion 2023 13:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Yws Gwynedd

    Sebona Fi

    • CODI CYSGU.
    • Recordiau CΓ΄sh Records.
    • 7.
  • Lleuwen Steffan

    Rhyddid

  • Super Furry Animals

    Hello Sunshine

    • Music From The OC: Mix 2.
    • 2.
  • ³§Εµ²Τ²Ή³ΎΎ±

    Gwreiddiau

    • Du A Gwyn.
    • Copa.
    • 2.

Darllediad

  • Sul 29 Ion 2023 13:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad