Cariad
Archif, atgof a chân ar y thema Cariad yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive on subject of love with John Hardy.
Mae John Hardy yn llenwi ein synhwyrau gyda serch wrth dwrio trwy'r archif am atgofion yn ymwneud â chariad.
Parchedig Ddoctor Patrick Thomas yn rhoi hanes Santes Dwynwen i ni; Catrin Gerallt yn esbonio pwy oedd Ffolant.
Islwyn "Gus" Jones yn trafod ei fywyd carwriaethol pan oedd yn 5 oed ym Mrynaman; Catrin Stevens yn trafod hen arferion caru gyda John Hardy.
Plant Ysgol Llannerchymedd a Llanfyllin yn sôn am eu cariadon a mae Caradog Williams, Cilcennin yn sôn am ei lwyau caru.
Martha Thomas o Gribyn yn esbonio beth yw caneuon pendrws, a Tomi ac Olwen Hughes yn esbonio beth yw cyfrinach cadw priodas lwyddiannus ar ôl bod yn briod am 62 o flynyddoedd.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Sul 22 Ion 2023 14:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2 & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru
- Sul 28 Ion 2024 13:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2
- Llun 29 Ion 2024 18:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2