Main content

Kath Morgan

Beti George yn sgwrsio gyda Kath Morgan, sylwebydd pêl-droed a chyn gapten tîm merched Cymru. Beti George chats to football commentator, and former Wales player, Kath Morgan.

Kath Morgan, sylwebydd pêl droed a chyn Gapten tîm pêl droed merched Cymru, yw gwestai Beti a'i Phobol.

Dechreuodd Kath chwarae pêl droed yn yr ysgol gynradd a hithau’n 7 oed; mae’n cofio diflasu chwarae gyda’r genethod a phenderfynu ei bod yn awyddus i ymuno efo’r bechgyn. Bu'n gwylio'r bechgyn yn chwarae am flynyddoedd i ddysgu sgiliau.

Mae hi newydd ddychwelyd o Qatar lle bu'n sylwebu yno gyda Radio Cymru, ac fe recordiwyd y rhaglen hon ar y 13eg o Ragfyr 2022, yn ystod Cwpan y Byd.

Ganwyd Kathryn Mary Morgan yn ysbyty Aberdâr ac fe'i magwyd yn Merthyr; mae hi'n sôn am ei magwraeth a'r gefnogaeth a gafodd gan ei theulu i chwarae pêl droed.

Mae hi wedi dysgu Aaron Ramsey, ac 'roedd e bob amser yn ei holi hi pryd 'roedd hi'n chwarae ei gem nesa.

Mae Kath yn hoff iawn o emynau gan eu bod yn ei hatgoffa o’i chefndir capel a’r ysgol Sul. Mae'r emyn Pantyfedwen (Tydi a Roddaist) yn un o'i dewisiadau.

Ar gael nawr

52 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 8 Ion 2023 13:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • °äô°ù»å²â»å»å

    Pantyfedwen

  • Electric Light Orchestra

    Mr. Blue Sky

    • The Very Best Of.
    • Frontiers Records.
    • T1.
  • Tecwyn Ifan

    Bytholwyrdd

    • Edrych I'r Gorwel.
    • Sain Records.
    • 2.
  • Dafydd Iwan & Ar Log

    Yma O Hyd

    • Tri Degawd Sain (1969 - 1999) CD2.
    • SAIN.
    • 18.

Darllediad

  • Sul 8 Ion 2023 13:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad