Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Pigion 2022

Hanna Hopwood sy'n edrych yn ôl ar flwyddyn o raglenni Gwneud Bywyd yn Haws. Hanna Hopwood and her guests discuss things that can make life easier.

Hanna Hopwood sy'n edrych yn ôl ar flwyddyn o raglenni, a chyfle i edmygu unwaith eto agweddau positif y cyfranwyr at fywyd a’r hyn sy’n gwneud y bywyd hwnnw yn haws.

Catrin Brown a Gwenllian Thomas sydd wedi ymrwymo i fyd y beics a’r treithalons er mwyn blaenoriaethu’r pethau sy’n eu cadw nhw’n iach yn feddyliol; y fam a'r ferch, Myfanwy ac Olwen Roberts, sy'n llawn egni ac awch i weithio'n galed ar y fferm deuluol, gan sicrhau bod digon o hwyl i gael hefyd!

Hefyd, yn ystod wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl, Llinos Patchell a Natalie Jones fu'n siarad o'r galon am effeithiau anhwylderau bwyta ar eu bywydau a’r hyn sy’n eu helpu wrth adfer; wedi damwain ddifrifol ar gae rygbi, Rhian Roberts sy'n teimlo'n ddiolchgar wrth addasu i'w bywyd newydd; a Caris Hedd Bowen sydd eisiau dangos esiampl i'w meibion drwy warchod ei lles wedi iddi oroesi canser.

30 o funudau

Darllediad diwethaf

Maw 20 Rhag 2022 18:00

Darllediad

  • Maw 20 Rhag 2022 18:00