Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

04/12/2022

Archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Coeden yw'r thema heddiw wrth i ni nesau at y Nadolig.

Geraint Lloyd yn holi Ian Cadmore am ei fusnes Coed Nadolig. John Hughes yn adrodd hanes Ywen Eglwys Sant Digain, Llangernyw, yr hynaf yn Ewrop.

Tom Evans yn holi David Rees Evans, Ffostrasol am gynnyrch y Saer Gwlad. Megan Tudur yn holi pobol ar strydoedd Aberystwyth os oedden nhw yn hoffi gwin.

John Bevan yn holi Alun Davies o Amgueddfa Werin Cymru am y traddodiad o wneud clociau cas hir yng Nghymru.

Gwyndaf Roberts yn sôn am y sipsi enwog Abraham Wood. Rose Eva Pierce Jones o Fangor yn sôn am fynd i ddosbarthiadau nos i ddysgu sut i drin pren.

Rory Francis a hanes achub Derwen Brimon. Eleri Hopcyn yng nghwmni Aelodau WI Tudweiliog, Abererch ac Edern yn rhyfeddu at hen gadair arbennig, cadair Dic Aberdaron.

A Gareth Lloyd Williams, John Ogwen a Norman Williams i gyd yn mynd dros ben llestri am yr athro gwaith coed.

1 funud

Darllediad diwethaf

Mer 7 Rhag 2022 18:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediadau

  • Sul 4 Rhag 2022 14:00
  • Mer 7 Rhag 2022 18:00