06/11/2022
Leisa Gwenllian yn sgwrsio â phobl sy'n gwneud gwaith anhygoel i wella'r amgylchedd. Leisa Gwenllian chats with people that are doing great things to help the environment.
Mae Leisa Gwenllian yn mynd ar daith i ardal Machynlleth i gyfarfod rhai o’r bobol yno sydd yn gwneud gwaith difyr ac anhygoel i wella’r amgylchedd. Mae’n ymweld â:
Canolfan y Dechnoleg Amgen, CAT, ac yn darganfod mwy am y gwaith sydd yn digwydd yna.
Y cerddor Liam Ricard sydd wedi astudio Pensaernïaeth a bellach yn astudio Gradd Meistr mewn Adeiladu Gwyrdd.
Sally Carr ac Alys Rees sydd yn sôn am y ganolfan ddechreuodd bron i hanner can mlynedd nol gan griw o wirfoddolwyr oedd yn awyddus i fyw bywyd heb ddibynnu ar danwydd ffosil.
Criw sydd ynghlwm a thyfu llysiau mewn darnau o dir sydd ynghanol Machynlleth, Tyfu Dyfi a Mach Maethlon. Gobaith Jane Powell yw cael mwy o bobol i dyfu bwyd eu hunain a dechrau garddio.
Siân Stacey o Tir Canol - eu bwriad ydi dod a phawb at ei gilydd a gwella natur yn y Canolbarth, er budd i fyd natur. Maen nhw’n siarad gyda channoedd o bobol – ac yn ceisio di-garboneiddio, hybu cydweithio ar draws tirfeddianwyr a chreu gwahaniaeth. Mae hi hefyd yn ymgyrchu i gael gwell darpariaeth feics yn y Canolbarth, a gwell cyswllt rhwng Machynlleth ac Aberystwyth.
Andy Rowlands, Eco Dyfi, sydd yn sôn am brosiectau ynni yn yr ardal.
Geraint Evans, un o Gyfarwyddwyr Cwmni Dulas. Fe ddechreuodd y cwmni yn CAT ac mae bellach yn cyflogi 60 o bobol gan greu oergelloedd sydd yn rhedeg ar ynni’r haul ac yn cael eu hallforio ar draws y byd.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Clip
-
Defnyddio celf i helpu'r blaned.
Hyd: 09:58
Darllediadau
- Sul 6 Tach 2022 18:30Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2
- Llun 7 Tach 2022 18:30Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2 & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru