Main content

Siân Elen Tomos

Siân Elen Tomos Prif Weithredwr GISDA yw gwestai Beti George. Chat show with Beti George interviewing Sian Elen Tomos, Chief Executive of GISDA.

Beti George yn sgwrsio gyda Siân Elen Tomos. Fel Prif Weithredwr GISDA mae Siân yn rheoli ac arwain GISDA ers Hydref 2011 i sicrhau gwasanaeth o ansawdd i bobl ifanc bregus yng Ngogledd Cymru. Law yn llaw gyda hynny mae Siân yn ceisio sicrhau parhad mewn gwahanol wasanaethau drwy geisio am grantiau a thendro am arian.

Cyn ymuno a’r tîm yn GISDA roedd Siân yn gweithio fel gweithiwr Cymdeithasol yng ngwasanaethau plant Cyngor Gwynedd, aeth yna ymlaen i fod yn Rheolwr Tîm yng ngwasanaeth i blant anabl yng Ngwynedd.

Yn enedigol o Ddeiniolen, mynychodd Ysgol Gwaun Gynfi, ac Ysgol Uwchradd Brynrefail, mae hi bellach yn byw yng Nghaernarfon.

Mae ei diddordebau yn cynnwys cerdded, bod allan yn yr awyr agored, teithio, materion cymunedol a gwleidyddiaeth, ac mae hi'n rhannu straeon bywyd ac yn dewis ambell i gan sydd yn agos at ei chalon.

Ar gael nawr

50 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 6 Maw 2022 13:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Queen

    Don't Stop Me Now

    • Jazz.
    • Island.
    • 12.
  • Annette Bryn Parri

    Memory

    • Annette.
    • Sain.
  • Tecwyn Ifan

    Y Dref Wen

    • Llwybrau Gwyn: Y Casgliad Llawn CD1.
    • Sain.
    • 1.
  • Côr Gore Glas & Côr Aelwyd Bro Ddyfi

    Rho I'm yr Hedd

    • Unwn Mewn Cȃn.
    • Sain.

Darllediad

  • Sul 6 Maw 2022 13:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad