Does Unman yn Debyg i Adra
Archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.
Kirsty Tivers yn sôn am alw Cymru bellach yn gartref ar ôl iddi hi a'i theulu symud o Gaint i Gaernarfon;
Elin Tomos a'r Athro Bill Jones yn trafod y Cymry a benderfynodd mudo dramor gydag Iwan Fon a Sion Tomos Owen yn darllen nifer o lythyrau gan Gymru dramor oedd yn ymddangos yn y wasg;
Sgwrs gyfredol gyda Sioned Wyn Morgan sydd wedi symud tŷ 28 o weithiau ar ôl iddi ddychwelyd i Gymru ar ôl bod yn byw yn Efrog Newydd a Hong Kong;
Casi Jones yn trafod ffrindiau, hiraeth a hiraeth am Dduw fel rhan o'r Oedfa;
Beti Rhys yn sôn am brynu tocyn bws a theithio'r byd ym 1969;
Syr Bryn Terfel yn gorfod dychwelyd adref i Benarth a chanslo cyngherddau yn Bilbao ar ôl torri'i droed;
ac Elain Dezzani yn sôn am gael ei hudo i fyw yn Los Angeles gan ddyn.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sul 30 Ion 2022 14:00Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru & Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru 2