Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Byw'n gynaladwy ar gyfer y dyfodol

Terwyn Davies sy'n clywed sut y mae Fferm Ystâd Rhug ger Corwen yn ffermio'n gynaladwy. We hear how the Rhug Estate Farm near Corwen are bringing sustainability to the forefront.

Gydag Uwch-gynhadledd COP26 yn ei hanterth yn yr Alban, Terwyn Davies sy'n clywed enghreifftiau sut y mae ffermydd a chefn gwlad yn ceisio bod yn fwy caredig i'r amgylchedd.

Gareth Jones o Fferm Ystâd Rhug ger Corwen sy'n egluro sut y maen nhw'n ffermio'n gynaladwy.

Tegwen Morris o Ystradgynlais sy'n sôn am brynu coedwig yn Ystradgynlais, er mwyn cydfyw â natur.

A hanes menter mam a merch - Gwenllian Stephens ac Ann Davies - o Feithrinfa Cwtsh y Clôs ger Llanarthne yn Sir Gaerfyrddin, sydd wedi ennill gwobr go nodedig yn ddiweddar.

Y ffermwr defaid o Bonterwyd, Dafydd Morris-Jones sy'n adolygu'r wasg amaethyddol.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 8 Tach 2021 18:00

Darllediadau

  • Sul 7 Tach 2021 07:00
  • Llun 8 Tach 2021 18:00