Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar Â鶹ԼÅÄ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Y Capel a'r Dafarn

Crwydro o'r Capel i'r Dafarn drwy archif, atgof a chân yng nghwmni John Hardy. A visit to the Radio Cymru archive with John Hardy.

Ymysg y pigion, cawn glywed Tudur Dylan Jones ac Ifan Gruffydd yn y dafarn yn rownd y geiriau mwys yn y gêm banel Pwl Bach Arall. Yna, o'r dafarn i'r Capel a hanes y Gymanfa Bwnc yng nghwmni Tom Evans a Ben Owens.

Faint ohonoch sy' di galw yn y Dyffryn Arms yng Nghwm Gwaun a chael croeso cynnes a pheint o Bass yng nghwmni Bessie? Mair Tomos Ifans sy'n galw heibio un o dafarndai mwyaf eiconig Cymru.

Cyfle i glywed T Glynne Davies yn holi Hannah Griffiths, Ystradgynlais am ei ewythr, yr emynydd Daniel Protheroe. Fe ysgrifennodd a threfnodd sawl emyn, gan gynnwys 'Price', 'Bryn Calfaria', 'Cwmgiedd' a 'Nidaros'.

Cawn wrando ar John Bevan yn cyflwyno rhaglen ar Gapeli Cymru ac yn holi Tecwyn Vaughan Jones am bwysigrwydd y seti yn y Capel.

Y Parchedig Richard Jones, Cwmgors ac Eigra Lewis Roberts sy’n trafod y Sul traddodiadol.

Ymweliad â thafarn eiconig arall sef Y Glôb ym Mangor Ucha' wrth i Gerallt Williams ddathlu un mlynedd ar hugain o fod yn gyfrifol am y dafarn. Yn ogystal â chlywed gan Gerallt, mae Gari Wyn hefyd yn sgwrsio gyda Wil a Mags, gan mai nhw oedd yn gyfrifol am sefydlu Cymreictod Y Glôb yn y saithdegau.

Cawn glywed Gwilym Jones ac Idris Davies o Faldwyn yn adrodd straeon digri am weinidogion, a sgwrs gyda Huw ac Enid Edwards a oedd yn agor tafarn am y tro cyntaf yn 2012 sef Ty’n Llan, Llandwrog.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 24 Hyd 2021 14:00

Rhagor o benodau

Blaenorol

Nesaf

Gweld holl benodau Cofio

Darllediad

  • Sul 24 Hyd 2021 14:00